Atodiad D
Ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad
Eich enw: Clare Hudson
Sefydliad (os yw’n berthnasol): Pennaeth Cynyrchiadau, BBC Cymru Wales
e-bost/rhif ffôn: clare.hudson@bbc.co.uk
Eich cyfeiriad: BBC Cymru Wales, Ffordd Llantrisant, Caerdydd, CF5 2YQ
|
Dylid dychwelyd ymatebion erbyn 16 Mawrth 2012 i:
Cangen Cwrs Bywyd
Llywodraeth Cymru
4ydd Llawr
Parc Cathays 2
Caerdydd
CF10 3NQ
neu gallwch lenwi’r ffurflen yn electronig a’i hanfon i:
e-bost: TobaccoPolicyBranch@Wales.gsi.gov.uk
Mae'n bosibl y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi – ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Pe bai’n well gennych i'ch ymateb gael ei gadw’n gyfrinachol, ticiwch yma: |
Cwestiynau
► Cwestiwn 1: A
ddylid diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007 i
ganiatáu i berfformwyr ysmygu pan fo uniondeb artistig y
perfformiad yn golygu ei bod yn briodol i'r perfformiwr
ysmygu?Dylid / Na
ddylid
A yw'r Rheoliadau arfaethedig yn ddigon i sicrhau na chaiff yr eithriad ei gamddefnyddio?
Ydyn.
Byddai unrhyw waith ffilmio mewn perthynas â golygfeydd â phobl yn ysmygu yn cael ei wneud o dan amodau'r eithriad gyda threfniadau diogelwch digonol ar gyfer criw a chast y cynhyrchiad. Dim ond sigaréts llysieuol fyddai'n cael eu defnyddio ar y set a hynny ar gyfer y gwaith ffilmio terfynol yn unig.
|
► Cwestiwn 2: A yw'r amodau sy’n ofynnol gan yr eithriad hwn yn ddigon i leihau'r risg y caiff pobl eraill eu hamlygu i fwg ail-law?
Ydyn.
Byddai unrhyw waith ffilmio mewn perthynas â golygfeydd â phobl yn ysmygu yn cael ei wneud o dan amodau'r eithriad gyda threfniadau diogelwch digonol ar gyfer criw a chast y cynhyrchiad. Dim ond sigaréts llysieuol fyddai'n cael eu defnyddio ar y set a hynny ar gyfer y gwaith ffilmio terfynol yn unig. Ni fyddai gorfodaeth ar actor i ysmygu.
|
► Cwestiwn 3: A yw'r darpariaethau ar gyfer sicrhau na chaiff plant eu hamlygu i fwg ail-law yn y Rheoliadau arfaethedig yn ddigonol?
Ydyn. Yn unol â’r eithriad arfaethedig, ni fyddai unrhyw blant yn bresennol yn y rhan o'r eiddo lle mae’r golygfeydd sy’n cynnwys ysmygu yn cael eu ffilmio.
|
► Cwestiwn 4: A fydd y darpariaethau yn y Rheoliadau arfaethedig yn gallu cael eu gorfodi'n effeithiol?
Byddant.
|
► Cwestiwn 5: Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu Canllawiau i gefnogi'r broses o roi'r eithriad arfaethedig ar waith: a fydd hyn yn ddigon i helpu i ddehongli amodau'r eithriad (er enghraifft, y gofyniad am ‘uniondeb artistig’)?
Bydd.
Mae BBC Cymru Wales yn llwyr ymwybodol o'r peryglon a'r ystyriaethau sy'n gysylltiedig â ‘glamoreiddio’ ysmygu.
Mewn dramâu cyfoes, ni ddylem gael ein gweld yn hyrwyddo rhywbeth mor annymunol ag ysmygu. Byddai’n ddadleuol iawn dangos arwr o gyfres deledu fel Doctor Who neu Sherlock yn ysmygu – yn wir, yn y gyfres Sherlock, rhoddir sylw i’r ffaith bod y prif gymeriad yn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.
Pan mae ysmygu'n digwydd mewn cynyrchiadau, mae gan y BBC bolisi golygyddol cadarn, sef:
5.4.41 Yn achos defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, camddefnyddio cyffuriau, ysmygu, camddefnyddio toddyddion a chamddefnyddio alcohol: •rhaid peidio â’i gynnwys mewn cynnwys sydd wedi’i wneud yn bennaf ar gyfer plant oni bai fod cyfiawnhad golygyddol cryf •rhaid eu hosgoi fel arfer a rhaid peidio â’u cymeradwyo, eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn unrhyw raglenni eraill a ddarlledir cyn y trothwy nac ar y radio pan fo plant yn debygol iawn o fod yn rhan o’r gynulleidfa, nac mewn cynnwys ar-lein sy’n debygol o apelio at gyfran sylweddol o blant, oni bai fod cyfiawnhad golygyddol •rhaid peidio â’u cymeradwyo, eu hyrwyddo na’u ‘glamoreiddio’ mewn cynnwys arall y mae’n debygol y bydd llawer o blant a phobl ifanc yn ei weld, ei glywed neu ei ddefnyddio, oni bai fod cyfiawnhad golygyddol.
5.4.42 Dylem hefyd: •sicrhau nad yw pobl sy’n cyfrannu at raglenni fel trafodaethau stiwdio neu raglenni sgwrsio yn ysmygu •delio â phob agwedd ar ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, camddefnyddio toddyddion a chyffuriau, ysmygu a chamddefnyddio alcohol gyda chywirdeb dyladwy. Pan fo'n angenrheidiol er mwyn sicrhau cywirdeb dyladwy dylai hyn gynnwys, er enghraifft, goblygiadau iechyd ac elfennau gwrthgymdeithasol defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a goryfed mewn pyliau •sicrhau bod cyd-destun cyfreithiol a chymdeithasol yr hyn rydym yn ei ddarlledu yn glir •osgoi datgelu gormod o fanylion am sut mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu gamddefnyddio toddyddion, oni bai fod cyfiawnhad golygyddol clir dros wneud hynny.
Gellir gweld Canllawiau Golygyddol y BBC yma:
http://www.bbc.co.uk/guidelines/editorialguidelines/
Rhaid i'r BBC hefyd lynu wrth ddarpariaethau Cod Darlledu Ofcom, sef:
Adran 1.10 Cyffuriau, ysmygu, toddyddion ac alcohol 1.10 Yn achos defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, camddefnyddio cyffuriau, ysmygu, camddefnyddio toddyddion a chamddefnyddio alcohol:
http://stakeholders.ofcom.org.uk/broadcasting/broadcast-codes/broadcast-code/protecting-under-18s/
|
► Cwestiwn 6: A yw'r Asesiad Effaith Reoleiddiol drafft yn adlewyrchu costau a buddiannau'r Rheoliadau arfaethedig yn gywir? Os nad yw, rhowch wybodaeth ychwanegol i ategu eich ateb.
Ydy.
Yn ychwanegol at y rhesymau golygyddol y sonnir amdanynt uwchben ac oddi tanodd, ceir achos busnes cryf i’r eithriad arfaethedig ganiatáu agwedd fwy hyblyg wrth bortreadu ysmygu ar y sgrin.
Mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau ac asiantaethau cysylltiedig wedi gweithio'n galed i ddenu cynyrchiadau a chynhyrchwyr annibynnol i’r wlad. Yn sgil twf y sector drama yng Nghymru – drwy BBC Cymru sydd bellach yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer drama, a drwy'r sector annibynnol – mae mwy o gynyrchiadau yn cael eu gwneud yma nag erioed o'r blaen. Gyda'n stiwdios newydd ym Mhorth y Rhath, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau i ddatblygu.
Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud Cymru’n opsiwn llai syml, ac felly'n opsiwn llai deniadol, ar gyfer ffilmio unrhyw ddarnau cyfnod. Mae cynyrchiadau o Gymru eisoes wedi gorfod teithio dros y ffin i Loegr, gan fod yr eithriad sy'n bodoli yno yn caniatáu amodau ffilmio mwy hyblyg. Nid yn unig y mae hyn yn ychwanegu cost ac amser at gynyrchiadau – gyda ffilmio ar leoliad yn gost ychwanegol at y broses ffilmio – mae hefyd yn rhoi Cymru o dan anfantais gystadleuol amlwg.
Y pryder yw y bydd cynyrchiadau yn dewis ffilmio cynyrchiadau cyfan yn Lloegr, yn hytrach na wynebu'r anhawster ychwanegol o ffilmio yng Nghymru. Pan fo cymaint o waith wedi cael ei wneud i ddenu cynhyrchwyr annibynnol i’r wlad, mae'n anffodus eu bod yn cael eu gorfodi i chwilio am opsiynau eraill.
Nid yw'r sigaréts electronig sydd ar gael ar hyn o bryd yn opsiwn amgen ymarferol: maent yn anodd eu gweithredu ac nid ydynt i'w gweld yn amlwg ar y sgrin. Mae’r broses CGI yn cymryd amser ac yn ddrud. Nid yw’r un o’r opsiynau amgen hyn yn ffordd gynaliadwy na chosteffeithiol o weithio ar hyn o bryd.
|
► Cwestiwn 7: Yn eich barn chi, a fyddai'r Rheoliadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith negyddol ar unigolion neu gymunedau yng Nghymru ar sail: anabledd; hil; rhyw neu ailbennu rhywedd; oedran; crefydd a chred a diffyg cred; cyfeiriadedd rhywiol; beichiogrwydd a mamolaeth; priodas a phartneriaeth sifil; neu Hawliau Dynol?
Na fyddent.
|
Rydym wedi gofyn cyfres o gwestiynau penodol. Os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig, nad ydym wedi cyfeirio atynt yn benodol, gallwch ddefnyddio'r lle hwn i'w nodi:
Nodwch yma:
Fel y soniwyd eisoes, mae BBC Cymru Wales yn deall ac yn cefnogi'n llwyr yr angen i fod yn gyfrifol wrth bortreadu ysmygu ar y sgrin. Mae ysmygu yn fater y mae angen delio ag ef mewn ffordd gwbl ddifrifol. Fodd bynnag, y prif fater sydd o dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn yw’r dull cynhyrchu. Yn y pen draw, ni waeth p’un ai a ddaw'r eithriad arfaethedig i rym ai peidio, bydd ysmygu yn dal i gael ei bortreadu i'r gynulleidfa, lle bydd cyd-destun hanesyddol neu gyd-destun lliniarol arall cadarn yn cyfiawnhau ei gynnwys. Yn ddieithriad, bydd y diwydiant yng Nghymru yn cael ei orfodi i ddefnyddio dulliau eraill costus o gynhyrchu’r golygfeydd hynny – a fydd yn cynnwys ffilmio ar leoliad y tu allan i Gymru neu CGI.
Felly'r cwestiwn yw, sut y gellir ffilmio a chynhyrchu cynnwys o'r fath mewn ffordd nad yw'n tanseilio cost-effeithiolrwydd cynyrchiadau drama a ariennir gan ffi'r drwydded yng Nghymru, gan lwyddo i roi sylw dyledus i bryderon iechyd go iawn ar yr un pryd. Fel cynhyrchydd drama mawr, nad yw mewn unrhyw fodd yn ceisio ‘glamoreiddio’ ysmygu, mae BBC Cymru Wales yn cytuno y byddai’r eithriadau arfaethedig hyn yn galluogi hyn, ac yn ei reoleiddio’n briodol.
|